
Mae’r rhwydweithiau cyfathrebu yn newid yn gyflym, gyda band llydan yn trawsffurfio profiadau cyfathrebu wrth gydgyfeirio gwasanaethau llais a data.
O fewn byd cydgyfeiriedig bydd pawb yn elwa o gyfuno gwasanaethau teledu, cyfathrebu a’r rhyngrwyd.
Mae BT wedi cyflwyno band llydan ADSL i 99%* o Gymru. Mae hynny’n golygu fod busnesau eisoes yn defnyddio band llydan i wella cynhyrchiant a marchnata, a phobl yn llwytho miwsig, siopa, postio lluniau neu wrando ar radio digidol drwy Gymru.
Dros y 18 mis diwethaf mae defnydd o fand llydan gan gwsmeriaid Cymreig wedi tyfu’n gyflym ac erbyn hyn yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.
* Darperir gwasanaethau band llydan yn amodol ar gyfyngiadau technegol ac economaidd rhwydweithiau. Ar hyn o bryd mae BT yn amcangyfrif y gallai oddeutu 99% o boblogaeth Cymru dderbyn gwasanaeth band llydan o’i archebu. Nid yw BT yn gallu darparu ffigur pendant oherwydd bydd nodweddion llinellau yn amrywio o gartref i gartref, a rhwng gwahanol fusnesau.
Mae BT yn cydweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru i daclo problemau sy’n wynebu rhai cwsmeriaid wrth geisio cael gwasanaethau band llydan.
Fel rhan o’r Rhaglen Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol (RIBS), a weinyddir gan Lywodraeth y Cynulliad, mae BT yn cydweithio â thîm RIBS i nodi ardaloedd sy’n methu derbyn gwasanaeth band llydan er bod y gyfnewidfa leol wedi’i diweddaru i ddarparu’r dechnoleg. Ar ôl clustnodi ardal heb wasanaeth, bydd BT a Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio i sefydlu ffordd o daclo’r broblem.
Byddwn yn cymell cwsmeriaid nad ydynt yn gallu derbyn gwasanaeth band llydan i gofrestru ar www.bbwo.org.uk neu www.abec.org.uk neu wrth ffonio 029 2064 7030.
Mae SDSL yn cynnig darpariaeth amgenach i’r gwasanaeth anghymesur (ADSL). Mae’n darparu cyflymder uwch ar gyfer anfon a derbyn data’n gyflym (gwasanaeth cymesur), tra bod ADSL yn hwyluso derbyn ffeiliau’n gyflym yn unig. O ganlyniad mae SDSL yn wasanaeth delfrydol ar gyfer busnesau, teleweithwyr a gweithwyr cartref sydd am gysylltu â safleoedd canolog.
Ar hyn o bryd mae BT yn cyflwyno’i wasanaeth Wi-Fi, BT Openzone, mewn ardaloedd penodol yng Nghymru. Yng Nghaerdydd, sefydlwyd dros 100 pwynt cysylltu Wi-Fi mewn tafarndai, cafés, gwestai, Stadiwm y Mileniwm, y maes awyr a hyd yn oed eglwys yng nghanol y brifddinas - ble mae pobl yn gallu cysylltu, syrffio’r rhwyd a chyfnewid negeseuon ebost. Cynllun Caerdydd oedd y fenter Wi-Fi gyntaf mewn dinas yn y Deyrnas Unedig, ble cydweithiodd BT mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd i greu rhwydwaith yng nghanol y ddinas a rhannau o’r Bae.
Manylion pellach yn www.btopenzone.com.