Croeso i wefan BT Cymru

Bydd archebu band llydan yn cynrychioli cam cyntaf ar daith gyffrous. Y camau nesaf fydd defnyddio'r dechnoleg i ddatblygu busnes, gwella hyfforddiant ac addysg, a denu cwmnau llwyddiannus i sefydlu yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan bwysig o economi Cymru ac yn bwriadu parhau i fuddsoddi yn nyfodol y wlad er lles BT a phawb sy'n byw a gweithio yma.
Mae BT yng Nghymru yn gweithio'n galed i wneud gwahaniaeth o fewn y cymunedau mae'n gwasanaethu. Fel rhan o'r gwaith rydym yn eu cymell i ddefnyddio band llydan. Mae'r dechnoleg ar gael drwy'r wlad, felly bachwch ar y cyfle i wireddu buddion sylweddol band llydan a thechnolegau cyfathrebu newydd eraill.
Mae pobl BT wedi trawsnewid y busnes drwyddi draw er mwyn cyflwyno ein strategaeth, gan ddatblygu dulliau dyfeisgar o ail-greu marchnadoedd tra'n sefydlu brand BT ar farchnadoedd newydd, a gostwng lefelau anfodlonrwydd cwsmeriaid.
Ar ein rhwydwaith newydd bydd y pwyslais yn symud o bibellau i bobl. Yn y cyd-destun hwnnw, pobl sy'n symbylu strategaethau, pobl sy'n trefnu profiadau o safon ar gyfer cwsmeriaid, a phobl fydd yn helpu i gydgyfeirio gwasanaethau.
Bydd ein Rhwydwaith 21ain Ganrif yn helpu i greu un o'r rhwydweithiau telathrebu mwyaf datblygedig yn y byd yng Nghymru, gan drawsnewid ein busnesau a chefnogi'r genhedlaeth newydd o wasanaethau hyblyg a chost effeithiol. Dewiswyd rhai ardaloedd yn ne Cymru i arwain y ffordd yn nhermau profi'r rhwydwaith cyfathrebu newydd, y datblygiad cyntaf o'i fath yn y byd.
Bydd ein gwaith gyda Vodafone, ein partner rhwydwaith symudol rhithwir, ar y marchnadoedd busnes a phreswyl yn allweddol wrth ddatblygu sylfaen o gwsmeriaid ac wrth greu llwybr i gydgyfeirio gwasanaethau. Un enghraifft o hynny yw'r ffn Fusion newydd - sef ffôn symudol, cartref a swyddfa mewn un!
Yn sicr mae band llydan wedi bod yn llwyddiant ysgubol, nid yn unig i BT ond i'r Deyrnas Unedig gyfan gyda defnydd o'r dechnoleg ar lefel uwch nag unrhyw wlad o blith grwp G7. Yng Nghymru mae gan dros 375,000 gysylltiad band llydan ar draws 99%* o'r wlad.
Mae'r diwydiant cyfathrebu'n datblygu gydol yr amser ac rydym ar drothwy newidiadau eithriadol wrth i'r maes gydgyfeirio. I'n cwsmeriaid busnes bydd yn golygu gwella cynhyrchedd, ac yn achos cwsmeriaid preswyl bydd yn cyflwyno gwasanaethau newydd, haws eu defnyddio. Ac i gwsmeriaid o bob math bydd yn creu profiad cyfathrebu mwy cydlynol.
Rydym wedi dechrau ar daith, ac weithiau bydd pobl yn gofyn pryd bydd honno'n dod i ben. Ond nid gêm yw busnes ble bydd rhywun yn canu chwiban a'r canlyniad yn gwbl amlwg. Yn hytrach, mae busnes yn cynrychioli gwaith parhaus a heriau newydd bob amser yn codi.
* Darperir gwasanaethau band llydan yn amodol ar gyfyngiadau technegol ac economaidd rhwydweithiau. Ar hyn o bryd mae BT yn amcangyfrif y gallai oddeutu 99% o boblogaeth Cymru dderbyn gwasanaeth band llydan o'i archebu. Nid yw BT yn gallu darparu ffigur pendant am fod nodweddion llinellau yn amrywio o gartref i gartref, a rhwng gwahanol fusnesau.
Ann Beynon, Cyfarwyddwraig Cymru BT