
Mae BT Cymru yn ganolog i’r broses o ddarparu rhwydweithiau cyfathrebu’r wlad ar gyfer yr 21ain ganrif. Mae wedi buddsoddi £100 miliwn er mwyn dwyn cysylltiadau band llydan cyflym i bron 99%* o gwsmeriaid yng Nghymru.
Mae BT wedi trefnu rhwydwaith band llydan drwy’r wlad ac ar hyn o bryd mae’n buddsoddi £500 miliwn i ddatblygu rhwydwaith newydd ar gyfer yr 21ain ganrif, y buddsoddiad cyntaf o’i fath unrhyw le yn y byd. Mae hefyd yn gweithio i ymestyn cwmpas band llydan wrth fabwysiadau’r technolegau diwifrau diweddaraf.
Gyda thîm ymroddedig yn adrodd i Gyfarwyddwraig Cymru BT, mae’r cwmni’n helpu i ddatblygu economi gwybodaeth y wlad.
Mae gan BT Cymru dros 1 miliwn cwsmer Cymreig. Bydd ein gweithgaredd drwy’r wlad yn cael effaith economaidd gwerth dros £237 miliwn ac yn cefnogi cyflogaeth oddeutu 10,800 o bobl; gan wario dros £42 miliwn yn uniongyrchol gyda chyflenwyr Cymreig.
Ffynhonnell: DTZ Consulting
Fel aelod o’r ‘Per Cent Club’, bob blwyddyn bydd BT yn neilltuo 1% o’i elw cyn treth ar gyfer achosion nid-er-elw, ar ffurf cyfraniadau ariannol ac mewn cynnyrch. Y llynedd cyfrannodd BT £21.3 miliwn at gymdeithas fel rhan o’i ymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, dros £1 miliwn ohono at gymunedau Cymreig.
Yn ogystal mae BT wedi buddsoddi’n helaeth i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, gan ail-lansio’i bolisi dwyieithog - a ganmolwyd gan y Bwrdd Iaith a chyrff eraill drwy Gymru am ei ymrwymiad i’r iaith a chymunedau lleol - a chynnig gwasanaeth newydd i archebu band llydan drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae BT Cymru wedi ymrwymo i weithredu gweledigaeth ddigidol, wrth ddarparu’r technolegau diweddaraf er lles busnes, iechyd, addysg, llywodraeth a chymunedau drwy Gymru.
* Darperir gwasanaethau band llydan yn amodol ar gyfyngiadau technegol ac economaidd rhwydweithiau. Ar hyn o bryd mae BT yn amcangyfrif y gallai oddeutu 99% o boblogaeth Cymru dderbyn gwasanaeth band llydan o’i archebu. Nid yw BT yn gallu darparu ffigur pendant oherwydd bydd nodweddion llinellau yn amrywio o gartref i gartref, a rhwng gwahanol fusnesau.