English
Polisi dwyieithog
Mae BT wedi sefydlu ei wasanaethau Cymraeg fel model rhagoriaeth o fewn y sector preifat. Maent yn cynnwys:
- Biwro Cymraeg – ar gyfer cwsmeriaid preswyl sydd am drafod prynu offer a gwasanaethau, gwaith trwsio a biliau 0800 800 288
- Ymholiadau rhifau ffôn Cymraeg 118 404
- Staff Cymraeg yn gweithio gyda’r gwasanaethau cysylltydd 100, gwasanaethau brys 999 a gwasanaethau cysylltydd rhyngwladol 155
- Band llydan – gwasanaeth newydd ar gyfer cwsmeriaid sydd am archebu band llydan yn Gymraeg.
Rydym hefyd wedi ail-lansio ein polisi dwyieithog, a ganmolwyd gan Alun Pugh AC, y gweinidog diwylliant, y Gymraeg a chwaraeon, a’r Bwrdd Iaith. Gallwch lwytho copi fel Bilingual Policy as a PDF document
.